ruddyn," a "tingoch "—enwau cwbl amhriodol, canys nid coch neu rudd, ond du melfedog ydyw cynffon [rhawn, rhonell, llost] yr aderyn. Yn yr un geiriadur defnyddir yr un termau Cymraeg yn union a'r uchod am aderyn clŵs arall, sef redstart neu redtail y Sais—yn ddiau termau cymhwys ddigon ar yr aderyn yma, canys rhonell goch yw yr eiddo ef. Ond paham y cymhwysir yr un a'r unrhyw dermau at ddau aderyn o dylwythau gwahanol, a'r enwau hynny, mewn un achos, yn hollol anghyfaddas a chamarweiniol? Mae y naill, sef y bullfinch yn perthyn i dylwyth y pincod [fringillidæ], ac o wehelyth y canary melynwyn, y linos lwydfelen, a'r eurbine—yr harddaf o deulu y llwyn—a'r oll yn adar cân. Gyda llaw, gelwir yr eurbinc yn y fro yma, sef Bryniau Iâl, yn Nico.' Yng ngogledd Ceredigion a dan yr enw ysmala o "Sowldier bach y werddon."[1] Dilys mai ysplander ei bluf amliwiog a awgrymodd yr enw "sowldier;" "y werddon" sydd dreigliad o "gwerddon," a golyga yma—nid yr Iwerddon, fe allai,— ond gwaen, rhos, dôl neu weirglodd, fel yn y llinell, "Pencerdd adar y werddon." Felly y cyfuniad, o'i gyfieithu i'r Saesneg, fyddai, "The little soldier of the glade." Os wyf yn camsynied, cywirer fi. Ond beth yn y byd yw "Nico?" Ai estron air ydyw, ai beth? Pwy all ei ddehongl? Pwy fydd gennad o ladmerydd i ddangos ei ystyr? Y mae yn Ial, yn ddiameu, fel ymhob cwmwd arall, oraclau,—dyma gyfleustra iddynt ddisgleirio; dyma gyfle iddynt gwacydda."
- ↑ Gelwir ef weithiau yn "Teiliwr Llunden."