Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond i ble y crwydraf? Perthyn yr aderyn arall, sef y redstart, i dylwyth y Telorion [sylviada] teulu y gân felus; a charennydd agos ydyw i'r brongoch, y penddu [black-cap], a'r eos, pencerddes. Beth! a ydyw y bron- goch a'r eos yn gyfneseifiaid? Ydynt. A glywsoch chwi y brongoch yn telori? Do? Onid oes yna dinc yn ei gân fer, nwyfus, sydd yn awgrymu ei fod o fonedd y gân? Na ddiystyrred neb y brongoch, gan hynny, canys edn ucheldras ydyw ef. Cân ef ym marrug, a rhew, ac eira, a chaddug y gaeaf pan fo'r eos yn ceisio "gloewach nen" mewn gororau

"Lle mae'r awel fyth yn dyner,
Lle mae'r wybren fyth yn glir."

Ond son yr oeddwn am y bullfinch, onide? Yn y geiriaduron ceir dau enw Cymraeg, heblaw yr uchod arno, sef, "coch y berllan," a "chwibanydd." Chwibanydd? Nid cymhwys yr enw, canys nid yw nodau ei gân naturiol ond cyfres o ffrillion neu yswitiadau isel, tyner, lleddf, fel tinciadau seinber eurgloch fechan mewn pellder. Ond arhoswch! Gall fod rhyw rheswm dros yr enw hefyd, canys gellir chwibanydd rhagorol o hono drwy ei hyfforddi yn ofalus. Yn yr Almaen dysgir nifer mawr o'r adar hyn, yn flynyddol, i chwibanu alawon, ac anfonir lliaws o honynt i wledydd ereill i'w gwerthu. A nodir hwynt, tybed, â'r nôd ystrydebol,—"Made in Germany?" Ond "coch y berllan." O'r holl enwau, dyma, i'm tyb i, yw y cymhwysaf. Rhuddgoch yw y lliw mwyaf amlwg arno. Yn niwedd gaeaf a dechreu gwanwyn, pan na cha hadau, mynycha berllannoedd