rhwng cathlau y ddau aderyn. Fel y mae eu tymer, felly eu cân—melusgân y gwaelodion a'r cysgod yw y naill, hyfrydlais yr entrych a'r heulwen yw y llall. Ond welsoch chwi nyth llwyd y gwrych? Chwiliwn am dani! Dyma hi—hon eto ym môn perth. Welwch chwi hi? Mae wedi ei gwau, a'i phlethu, a'i chyfroded du o fwsogl, a gwlan y ddafad; ac wedi ei hulio yn ddestlus o'r tu fewn â rhawn o ronell y march. Onid yw yn dwt ac yn glyd? A'r wyau! Edrychwch. Ddeled, sirioled ydynt ar waelod y nyth! Mor hyfryd i'r llygad yw eu lliw gwyrddlas difrychau, dihalog, fel gwyrddlesni tyner deilflagur yr yspyddaid ym mha un yr ymgysgodant! Onid yw yn rhyfedd fod aderyn mor lwydwawr yn dodwy wyau mor ysblennydd eu lliw? Pwy a'u lliwiodd? Gofynner, pwy baentiodd y lili a'r rhosyn? Pwy ond yr Hwn a liwiodd y nefoedd yn asur, y ddaear yn werdd, a'r cefnfor yn ddulas? Pwy ond yr Hwn sydd yn rhosliwio y wawr, ac yn ymylu cymylau ag aur melyn?
Ond pa le mae'r "coch," unwaith eto? Cerddwn ymlaen i chwilio am dano. Ust! dyna rugldrwst yn y prysglwyn gerllaw. Yr ydym wedi aflonyddu ar aderyn du—yr ofnusaf o'r adar—sydd yno yn casglu ei luniaeth. Gwarchod ni! rhuthra allan yn orwyllt—wedi brawychu drwyddo,—ac eheda, gyda'r ddaear, bendramwnwgl i rywle am ddiogelwch—y creadur gwirion! Mae'r wig yn darystain gan ei "whit!" "whit!" "whit!" trystiog, brysiog, cynhyrfus. Mae yn disgyn yn y fan draw, a chan dybied ei fod yn ysgyfala mae'n ymdawelu. Sythgoda ei gynffon lydan, ysgydwa hi fel gwyn-