tyll—o lawenydd feddyliwn—a diflanna o'n golwg i'r prysgwydd—yno i ddiweddu ei arlwy. Paham y diengi, aderyn mwyn?
Pwy a'th ddychrynnodd? 'Does yma neb a wna niwed i ti, gantwr melusber. Cân i ni. Gwell gennym dy fawl-gân na'th waeddolef gyffrous. O'n blaen yn ei blodau melynwawr cynnar mae helygen grynddail wrryw. Mae'n ddiddail, ond mae'n dlos! Ymddengys pob brigyn fel yn addurnedig â boglynau o aur dilin. Ymysg y cangau mae aderyn bychan, glasliw, nwyfus yn ysgogi'n ddibaid. Sylwch! mae'n hwbian yn ysgafndroed o frigyn i frigyn; mae'n hedeg yn hoew o gangen i gangen; mae'n dringo yn heinyf ar hyd y pren; mae'n hongian wrth y briger—gerfydd ei ewinedd bachog cryfion—a'i ben i lawr, ac yn cael ei siglo yno gan yr awel; mae'n nydd-droi ac yn croes-droi ei hun i bob agwedd a llun—ystwythed ydyw â chysgod cwmwl. Mae yn esgeiddig—bitw bychan—mae yn fywyd i gyd. Gyflymed yw ei ysgogiadau â fflachiad pelydryn, ysgafned â'r goleuni. Yn sydyn cymer ei aden, ac ehed i goeden arall, dan wich-leisio yn wyllt, fel cecren mewn nwydau. Beth yw'r aderyn? Dyma'r yswigw[1] neu'r "swigw lâs fach"—un o adar bychan mwyaf ymladdgar y goedwig. Taioged ydyw ei dymer ag
- ↑ Mae llawer math o yswigiaid:—(1) Yr yswigw neu y penloyn mwyaf (Parus Major).
(2) Yr yswigw copog (Parus cristatus).
(3) Yswigw neu penloyn y gors (Parus Palustris).
(4) Yr yswigw cynffon hir (Parus Caudatus).
(5) Yr yswigw las fach neu y lleian (Parus Coeruleus).
Yr olaf a ddesgrifir uchod.