gyflymed, hardded, ei hediad! Mae'n dod, fel saeth o fwa, ac yn cyfeirio at y ty. Mae'n disgyn chwap gyda "twit-twit-twit-twit!" sionc ar furiau ei hen nyth llynedd sy dan y bondo. Ymfacha ynddi, ymlyna wrthi dan drydar yn wyllt drystiog. Edrycha o gwmpas gan symud ei phen bychan claerddu hwnt, yma, ac acw, i fyny, ac i lawr, mor aflonydd a llygedyn haul ar for. Ymwrendy. Dealla fod rhywbeth o'i le. Be sy'n bod? Mae aderyn y to—yr intruder!—wedi trawsfeddiannu'r nyth ac wedi ei annhaclu â'i ddodrefn ei hun, nid amgen gwair, gwlan, pluf—and rovings of a worsted mat!—ac yno, yn nursery y fwyn wenfolen y maga ei gywion. Clywch hwynt yn cogor, cogor. Ymsaetha'r wennol yn ol i'r wybr; "nofia wyrdd fôr y nefoedd; daw i lawr eto "fel arf dur yn gwanu'r gwynt;" ymlithra, eheda'n ysgafn dros. y cae gwyrddlas; tasga i'r wybr eto; i fyny, i fyny; gwibia, troellwibia yn yr asur. Welwch chwi dduwch ei chefn?--mae fel nos! a chlaerwynder ei chwman?—mae fel dydd! Daw i lawr, lawr, yn hoew-wyllt, a gwna am y bondo yr ail waith-hoffed ydyw o'i hen gartref! Twit-twit-twit!" Ymaith a hi drachefn. Chwyrn-deithia. Mae o'n gol—na, dacw wyn ei chwt yn fflachio, yn fflachio, fel lluchedyn of wawl oddiar risial! Diflanna. Ddaw hi'n ol? Daw, hi ddaw'n ol i'w hen gynhefin i nythu. Gwna ei nyth yng ngolwg yr hen.[1]
- ↑ Yn nhylwyth y Gwenoliaid [Hirundinidae] ceir amryw aelodau,—(1) Hirundo Rustica,—Swallow. Gwennol.
(2) Hirundo Urbica,—House Martin. Gwennol y Tai. Gwna ei nyth o dan y bargod, a hi a ddesgrifir uchod.
(3) Hirundo Riparia,—Sand Martin. Gwennol y Glennydd.
(4) Cypselus Apus,—Common Swift. Gwennol Ddu. O'r tylwyth buan hwn, dyma y fuanaf a'r fwyaf diflino. Mae ar ei haden o'r plygain hyd y cyflychwyr, bron yn ddiorffwys.