Sylwch ar yr eirinberth[1] sy draw. Mae wedi ei thlws hulio â blodau ganned ag ewyn y don. Mae ei changau duon, pigog-sy eto heb arliw o irlesni—wedi eu gwynnu megis â chaenen o eira newydd ddisgyn. Mae gwawr farwaidd y pren ynghyd â gwedd eiryaidd ei geinciau yn dwyn inni adgof o'r gaeaf. Onid yw fel touch o Ionawr yng nghanol Mai? Ysbiwch ar y ddraenen wen sy acw. Awn ati. Gwerddliw'r emerald—ydyw ei gwisg hi, a dyferynnau o'r gawod gynneu, fel gloew emau, yn ei boglynu. Y dafnau crisialaidd, gemog! Yng ngwên haul odidoced ydynt! Dyma nhw, ar y gwyrdd-ddail—fel y perlau tryloewaf ar lainau o emerald—yn seiriannu, yn peiru, ac yn adlewyrchu-rhai yma, ereill acw-holl gain liwiau yr enfys! Erioed ni fflachiodd y diamonds puraf—of the finest water— ar addurnwisg pendefiges gyda mwy o ysblander nag y gwreichiona "mân emau'r gwlith" ar ddillyn fantell y ddraenen.
Rhaid symud ymlaen. Ond aroswch! Edrychwch i'r ddraenen. Dacw nyth-nyth yr asgell arian-ar fforch isel yn y pren. Mae'r
- ↑ Prunus Communis,—Sloe, blackthorn; y ddraenen ddu.