Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iâr yn eistedd arni. Welwch chi hi? mor llonydd! Mae ei phen—gyda llygaid fel dwy ellygen—yn gorffwys ar erchwyn mwsoglaidd y nyth, a'i chynffon yn syth i fyny gyferbyn. Mor gomfforddus dan dô o wyrdd-ddail! Ust! Mae yn ein clywed. Cwyd ei phen i fyny, a llithra ymaith, ddistawed â llygoden, i lawr, rywle i'r cangau, ac allan i frig onnen gyfagos. "Pinc!" "pinc!" Mae'n galw ar ei chydmar. Dacw hwnnw'n dod yn ffrom a thrysfawr. Wyllted ydynt! Ehedant o'n hamgylch—bron na chyffyrddant ni â blaen eu hedyn. Gwibhedant yn aflonydd anesmwyth, o bren i lwyn, o lwyn i dwmpath, oddiyno i'r gwrych gan roddi mynegiad i'w cyffrawd mewn "twinc!" "twinc!" "twit-twit-twit!" clochog, diorffwys, pryderus. Y pethau bychain cariadus! Ofnant fod eu nyth mewn enbydrwydd. Raid iddynt ddim. Pwy dorrai nyth deryn mor dirion? Ond beth am y nyth? Craffwn arni. Gywreinied ydyw ei gwneuthuriad! Ei magwyr sy o fwsogl, a gwlan, a main-wreiddiau wedi eu cymysgu, a'u cordeddu, a'u gweithio i'w gilydd agos mor glos a durfin a brethyn llawban. Coedgen gwyn siobynog a'i haddurna o'r tu allan, tra o'r tu mewn hulir hi â blew yr eidion, pluf dofednod, ynghyda'r manblu cann sidanaidd sy'n adeinio man hadau'r ebolgarn.[1]

  1. Coronir hadau blodau cyfansawdd (compositae). megis carn yr ebol (coltsfoot), dant y llew (dandelion), yr ysgallen (thistle), barf yr afr felen (yellow goat's beard neu John-go-to-bed-at-noon) &c., â mân flew plufog, ysgafn (pappus). Trwy hyn cludir hwy'n mhell o'u cartref, ar aden yr awel i wladychu. Defnyddir y pappus yma gan dylwythi y pincod i wynebu eu nythod.