Ar lawr esmwyth-glyd y nyth y mae pump o wyau del o borffor a gwyrdd yn frith gan yspotiau a rhesi igam-ogam o liw llwydgoch. Parha yr adar i drydar. Symudwn a gadawn y nyth iddynt. Y nhw a'i piau.
Dyma ni wrth y gwrych. O dani y tyf toraeth o'r llysieuyn bychan tyner-un o lysiau swil y cysgodion-a elwir suran y coed neu bara cann y gwcw.[1] Sylwch ar y dail. Tebyg ydynt i'r meillion, ond gwannach yw eu gwyrdd. Maent ar ffurf calon, ac wedi eu gosod, flaen wrth flaen, ar frig coesigau meinion, melfedaidd, penoblygol, sy'n tarddu o'r ddaear drwy garped o fwsogl. Yn ystod y dydd, tra haul yn gwenu, mae'r dail yn llawn agored. Maent felly 'rwan, fel y gwelwch. 'Mhen rhyw ddwyawr dechreuant edwino, llaesant eu pennau yn raddol, ac erbyn naw o'r gloch byddant wedi plygu yn llwyr, i lawr at y goes, a'u gwyneb ucha tuag allan, ac felly, yn yr ystum yma, "cysgant" "gefn yng nghefn",[2] drwy gydol nos.
Mor wylaidd, mor brydferth yw'r blodyn! Plyg ei ben liliaidd a rhydd ef i orffwys ar y ddalen sy wyleiddied ag yntau. Torrwn ef i
- ↑ Oxalis Acetosella,—Common wood sorrel. Suran y gog, suran teirdalen, triagl teirdalen. Gelwir ef hefyd "Aleliwia" am ei fod yn ymddangos tua'r Pasc, pan genir "aleliwia." Bernir, gan rai, mai hwn ac nid y feillionen yw y Shamrock of Ireland, ac mai drwy hwn, yn ddamegol, yr eglurodd Padrig Sant athrawiaeth y Drindod i'r Gwyddel.
- ↑ Mae dull y meillion o gysgu yn wahanol. Gyda'r nos codant hwy eu pennau yn raddol, gan droi cu hochr isaf allan; felly cysgant hwy wyneb yn wyneb a'u pennau i fyny.