Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffwrdd er craffu ar ogoniant ei degwch. Sylwch ar y pump fflurddalene[1] hardd sy'n ffurfio coronig[2] y blodyn. Mae eu gwyn pincliw wedi ei farcio â rhesi, fel gwythi, o liw'r lilac, ac â chyffyrddiad o aur yn y bôn. Tynnwn un o honynt i ffwrdd, ac edrychwch arni drwy y chwyddwydr bychan yma. Onid yw yn ddisglaerwyn, ac yn lluganu fel milfyrdd ronynnau'r barrug yn haul y boreu?

Sylwch eto. O dan y goronig-yn ei chofleidio, megis y mae pump o ddail bychain gleision,[3] wedi eu hymylu â phorffor. Gelwir y cylch yma o ddeilios yn flodamlen.[4] Bu i hon ei gwasanaeth, sef oedd hwnnw, enhuddo y fflur yn ei fabandod, a'i ddiogelu rhag oerwynt, ac efe eto onid blaguryn egwan a chyn agor o hono ei lygad, a gwenu yn haul y gwanwyn.

Ond cyn mynd ymhellach, hoffwn i chwi ddeall fod rhyw yn perthyn i lysiau. Am a wn i, carant; ond sicr yw, ymbriodant, ymgysylltant, ac epiliant.

Wel, rwan, rhannau adgynhyrchiol, neu beiriannau epiliol llysiau, ydyw blodau. Ym mha le, gan hynny, mae y tad, ym mha le mae y fam? Ac mi hoffech wybod, wnaech chwi?

Pliciwch ymaith y fflurddail. Beth welwch chwi ar ol, yng nghraidd y flodamlen? Defnyddiwch y chwyddwydr bychan yma eto, fel y canfyddoch yn well. Edrychwch. Yn union yn y canol mae colofnig wedi ei hollti yn bump, a chnap bychan plufog, tryloew, yn coroni pob

  1. Petal.
  2. Corolla.
  3. Petals.
  4. Calyx, cwpan.