cainc. Y golofnig yma ydyw ermig menywaidd y blodyn, ac a o dan yr enw paledryn.[1] Mae bôn y paledryn, ysbiwch, yn freisgach na'r rhelyw o hono, ac yn wyrdd. Y rhan chwyddog yma yw yr hadgell[2]—yn cynnwys ynddi ei hun bump ystafell—ac o'i fewn y mae rhith yr hadau, neu annelwig ddefnydd epil y llysieuyn—eto heb ei ffrwythloni. Pa beth a'i ffrwythlona? Cawn weled.
Edrychwch eto. Beth sy amgylch, ogylch y paledryn, fel rheng o sawdwyr sythion yn ei wylied? Tusw o fain linynnau, fel gwifrau arian—pump yn fyr a phump yn dâl—a boglyn[3] bychan rhigolog, wynned â'r ôd, ar ben pob un—fel talaith. Beth ydynt? Wel, dyma ermigau gwrywaidd y blodyn, a gelwir hwy'n frigerau.[4] Pan addfedo'r brigerau, ymrwyga'r boglynau sy ar eu blaen—canys cydau in miniature ydynt a dyhidlant eu cynnwys yn fân lwch, blodiog. Dyma y paill.[5] A sylwch, dyma'r elfen fywiog, wrywaidd, yr hon drwy gyffyrddiad â'r hadrithion yn yr hâdgell â'u ffrwythlona—mewn modd cyfrin. Pa fodd y dygir y cyffyrddiad y briodas—oddiamgylch? Nis gallwch lai na gwenu, mi welaf.
Cymerwn flodyn arall add fetach; mae o honynt gyflawnder dan ein traed. Dyma un. Edrychwch iddo drwy'r chwyddwydr cryfaf o'r tri yma. Chwi welwch fod cydau bychain, cannaid, brigerau hwn wedi ymdorri, a'u cynnwys