Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—y paill—yn llanastr hyd rannau'r blodyn. Mae peth o hono, fel llwch arian, ar aur y fflurddail; a chyfran arall, sylwch—ac y mae hyn yn bwysig—wedi glynu ar gnapiau tryloew, gludiog, y paledryn. Wel, dyma yr egwyddor fywiol, wrywaidd wedi ei dwyn i gyswllt â rhannau uchaf—allanol—yr organ fenywaidd. Dyma'r cam cyntaf ym mhriodas y blodau.[1] A ydych yn dilyn?

Mae'r paill, eto, chwi welwch, y tu allan i'r hâdgell—ac ymhell oddiwrthi. Wel, 'rwan, meddwch, sut y ffrwythlonir—y bywheir y rhith, sy rhwng gwerchyrau cauedig y gell, gan sylwedd sy o'r tu allan iddynt? Rhoddwch ychydig o'r paill yma, sy fanach na "mân lwch y cloriannau," dan chwyddwydr cryfach lawer nag un o'r tri hyn. Syndod edrychwch! mae pob llychyn o hono yn gell gron, glôbaidd, ac yn llawn o hylif a mân ronynau! Yn sicr, rhyfeddach yw ffaith na chwedl.

  1. Yn aml yn amlach nag y tybir—ffrwythlonir hadrithion un blodyn gan baill o flodyn arall, drwy gyfrwng gwynt, cylion, gwenyn, &c. Er esiampl, hed y wenynen o flodyn i flodyn, cluda ymaith ychydig baill ar ei phen, ei choesau, neu ei chefn. Glyn peth o hwn ar gnapiau gludiog paledryn y blodyn nesaf yr ymwel âg ef, gan ei ffrwythloni, fel y desgrifir yn yr ysgrif, a cha ddyferyn o fêl fel tâl. Mae y wenynen bob amser ar un daith, yn cadw at yr un rhywogaeth o flodau, felly atelir cenedliad planhigion cymysgryw (hybrids). Gelwir ffrwythloniad un blodyn gan y llall yn groes-ffrwythiant, a thuedda hyn i gynhyrchu hadan a llysiau cryfach, mwy ffynadwy, a golygus. Fel y mae ym myd yr anifail a dyn,—mae "cymysgu gwaed " yn fuddiol yno-felly hefyd ym myd y blodyn,