Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NYTH DERYN DU.

AROSASOM yn hir gyda'r blodyn. Cyn symud ymlaen edrychwn unwaith eto ar y teirdalennau heirdd sy'n hulio'r fan ac ar y blodau chweg sy fel dibyndlysau o arian cabol neu lein-emau o oleuni yn gwawladdurno mangre'r cysgodion! Dyna. Bellach awn rhagom.

Ar ein ffordd yr ydym yn pasio masarnen[1] dalfrig, braff-geinciog, lydan-ddail.

Safwn am ennyd dani. Mae bagad o wenyn minfelus yn siffrwd,—yn suoganu,—yn y cangau tra'n casglu'r neithdar o'r blodau bagwyog. Onid yw'r miwsig yn ddieithr o swynol? Gwrandewch! Sigyngan foddlon llafurwyr diddig a diddan ydyw. Tynnwn un o'r fflur-sypiau dibynaidd. Rhoddwn ef wrth ein ffroenau-mae'n arogli fel diliau mel. Archwaethwn ef—cawn flas mel ar ein min.

Dacw dderyn du—yr iar—a chynronyn, titbit i'w chywion-yn ei chylfin. Mae'n disgyn ar y clawdd cerrig cyfagos. Mae ei nyth heb fod nepell-naill ai yn y ddraenen wen, ai ynte yn y gelynen werdd gerllaw. A hoffech chwi weled ei nyth? Ac mi wnaech? Gwyliwn yr iar, ynte. Ciliwn ychydig o'r neilldu rhag ein gweled ganddi. Mae ar y look-out. "Whit!"—"whit!"—" whit!"-araf, clochog, subdued.

  1. Acer pseudo-platanus: Greater Maple neu Sycamore. Mae ym mlodau y goeden hon gyflawnder o fêl. Ymdyrra'r gwenyn iddi yn fil ac yn fyrdd i hel y melusfwyd dan ganu.