Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hush! Mae yn ein clywed, canys dyna'r arwydd. Codwn yn reit ddistaw a llonydd rhag tarfu o honom hi. Ysbiwch Mae ar y clawdd cerrig eto. Aflonydded ydyw! Mae'n mynd i gychwyn rhydd herc i'w phen i lawr, a thòs i'w chynffon i fyny. Gwna osgo i hedegmae'n ysgwyd ei hedyn-a dacw hi ymaith! Welwch chwi hi? Mae'n soddi, fel pelen o gyflegr, i galon y gelynen. Mewn chwipyn hed allan—heb yr abwydyn. Yn y gelynen y mae ei nyth. Awn yno, ynte. Dacw hi, a'i sylfaen ar fforch gref, ddisigl, yng nghraidd y pren, a'r cangau cylchynol fel ategbyst i'w pharwydydd o fan wiail, a main wreiddiau, a mwsogl. Maeswellt sych, rhywiog, sy'n wynebu'r ystafell sy gryned â chwpan. Mor ddiddos! Pe darniem. y nyth-ac nid gorchwyl hawdd fuasai hynny—caem weled haenen o laid—galeted a chymrwd —rhwng y plethwaith allanol a'r lining tumewnol. Trwy hyn mae y nyth yn wind-proof ac yn water-proof, ac wedi ei chyfaddasu i ddiogelu yr wyau[1] a'r cywion rhag curwlaw ac oerni gwanwyn cynnar—pryd, fel rheol, y nytha ac yr epilia yr adar duon.

"Clwc!" "clwc!" "clwc!" a'u tinc fel cloch. Trown ein golygon i gyfeiriad y crinid cân. Ha! dacw'r ceiliog eurbig, disglaerddu—cydwedd yr iar-ar y lasdonnen, yn hwbian yn aflonydd rhwng yr irwellt a'r blodau. Mae yn ein drwgdybio. Onid ym yn ymyrryd â'i nyth? Mae yn anesmwyth. Cymer ei aden yn ebrwydd a hed i'r prysgwydd. Clywch ei

  1. Llwydwyrdd yw'r wyau, wedi eu mannu a'u brychu a chochlwyd goleu.