Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drydar pryderus yno! Mae'r ddolefgloch ymhellach—mae'n nes. Mae yn y llwyn, mae ar y pren, mae ar y llawr. Taw, taw, am ennyd, aderyn mwyn, cariadus. Ni niweidiwn na'th nyth na'th gywion. Na wnawn yn wir. Yn unig gad i ni edmygu dy waith ac edrych ar dy gywion. Taw Clwc! clwc! clwc!"—Wel, wel; 'does dim a'th dawela. Awn oddiyma'n union. Wna hynny dy foddio? Am funud, 'rwan, aderyn mwyn.

Sylwch. Yn ystafell gynhes-glyd y nyth y mae un, dau, tri, pedwar, pump, o gywion newydd eu deor—newydd ddod o'r plisgyn. Yr ednogiaid bychain, eiddilaidd! Mor ddisut yr edrychant—mor legach-mor llymrig? Mae eu croen melynliw, lliprynaidd, i'w weled rhwng tuswau o flewiach hirion, anhrefnus, diaddurn, a dyfant arno. Gelwid y cudynau afler yma gennym, yng Ngheredigion, pan yn blant yn "flew witch." Dychymygid yno fod blew felly yn tyfu ar wynebau rhychog, crofenllyd, melyn-ddu rheibwragedd a gwiddanesau. Mae dychymyg Shakespeare wedi creu witches. Dywed fod ganddynt "choppy-fingers,"[1] "skinny lips;" ond ni sonia air am eu cudynau cedenog. Dichon fod crebwyll y Cardies aflonydd yn fwy hedegog nag eiddo y prif-fardd.

Ond stop! 'Rwyf yn crwydro. Dall ydyw'r cywion eto, a pharhant felly am yspaid diwrnodau. Mor ddiymadferth yr ymddangosant fel y tybiech nad oes ynddynt nerth i

  1. "You seem to understand me By each at once her choppy finger laying Upon her skinny lips."—Shakespeare.