Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

symud na migwrn, nac asgwrn, na chyhyr. Ond arhoswch! Cyffyrddwch â'r llwyn. Meddyliant ddyfod o'u mam a thamaid iddynt, y gwirioniaid diniwed! Mewn eiliad i fyny a'u pengliniau. Estynnant eu gyddfau, ac agorant eu pigau yn safnrwth am y golwyth ddisgwyliedig. Edrychwch yn wir! Bron nad yw blaen y naill fant yn gydwastad—on a level—a blaen y mant arall. Yr ydych yn gwenu. 'Does ryfedd. Mae'r olygfa yn ogleisiol—chwerthinus. 'Rol hir ddisgwyl yn ofer, blinant, a syrth eu pennau dan wegian yn ol i esmwythder y nyth.

Mor fwyteig, mor wancus ydynt ! Mor ddygn-ddiwyd eu porthir gan eu rhiaint gofalus, cariadus! Dygani iddynt, o'r plygain hyd y cyfnos, seigiau melusion o gynron, maceiod,[1] trychfilod, a—malwod, â la francaise!—blasusfwyd o'r fath a garant. Yng ngrym y fagwraeth foethus yma dadblygant yn ddiatreg, magant bluf, daw nerth i'w hesgyll a hoender i'w hysbryd, ac, ar fyrder, ehedant, o'r nyth i'r eangder, oni ddifethir hwy cyn hynny gan hoglanciau barus, neu amaethwr crintach, y naill o ddireidi a'r llall o ddygasedd. Gyda llaw, nis gwn paham y difroda'r amaethwr adar duon a bronfreithod. Nid yw y cyfryw adar yn bwyta grawn. Difäant, mae'n wir, y ffrwythau aedd-

  1. Caterpillars: Llindys, pryf y dail, pryf melfedog. Galwai hen wr o'r wlad yma hwynt yn "capten pillars." Tybiai'r hen law ei hun yn oracl gwlad anffaeledig, er yn anllythyrennog. Mae llawer cyffelyb iddo eto. Gwyddant fwy am y gyfraith na chyfreithiwr; mwy am feddyginiaeth na doctor; a llawer rhagor nag ysgolfeistr am y Côd Addysg. A gwae a'u gwrthddywedo.