Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fetaf, dewisolaf, ond y mae y gwasanaeth anhybris a wnant drwy ysu pryfetach dinistriol y berllan, a'r ardd, a'r maes, yn gwneyd i fyny, a llawer rhagor, am y golled. Pa bryd y dysg ein ffermwyr ddoethineb?

Dyna. Gadawn y nyth a'r cywion a symudwn ymlaen. Ar y naill law i ni y mae onnen feindwf, dal, luniaidd. Ei cholfennau estynedig, drooping, sy guddiedig bron gan ddeilwaith plufog o'r fath deleidiaf. Ysgafned yr ymdonna—y chwery—y pluf-ddail yn awel falmaidd yr haf! Ar y llaw arall y tyf y fedwen firain, fân-ddail. Arian-liw yw ei phaladr unionsyth. Sylwch,—mae lliw arian y cyff i'w weled yn ysmicio, fel lloergan, rhwng glesni y deilfrig. A geir hygared cyferbyniad rhwng lliwiau yn unman? Mae'r briger-gangau, deilemog, yn ymlaesu ac yn ymhongian mor ddillyn —mor graceful—a hir-gudynau sidanaidd un o'r Naiadau, neu un o iesin Dduwiesau y Gelli. Yn ddilys ddiameu, y fedwen lednais ydyw "Arglwyddes y Goedwig." O'n blaen y cyfyd criafolen. Byr yw ei boncyff hi. Mae ei cheinciau yn hirion a hyblyg. Ffurf asgell sy i'r dail; llathraidd a thyner-wyrdd ydynt; a chydrhyngddynt, fel lloer drwy asur, y gwena ac y lleuera gwullsypiau ysnodenog wynned a distrych y don. Erbyn yr Hydref bydd gwyn cannaid y ffluron wedi rhoi lle i ysgarlad ffloew'r aeron-ffrwyth.

Yr ydym yn mynd drwy rodfa (avenue) gul, yn cael ei ffinio o'r deutu gan gyll, mieri, rhedyn, drain gwynion a duon, rhoswydd gwylltion, a