Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyrysien bêr[1]—pob un o honynt wedi ymwisgo. mewn goliw gwahanol o wyrdd dymunol. Mae perarogl yr olaf, ar ol y gwlithwlaw, yn dylenwi awyr yr hwyr. A glywch chwi'r arogl? Aroglwch! O bereiddied! Onid yw'r persawr yn llanw eich ffroenau fel cysewyr haf neu arogl oddiar "welyau y perlysiau?" Ai dymunolach arogl "powdr yr apothecari" na sawyr yr eglantine? Ai pereiddiach y nardus, y thus, a'r myrr, na mieri Mair? Unwaith eto,—aroglwch!

O bobtu i ni, ym mon y mangoed, ymysg y ceinciau, ac ar y briger, y mae llu o adar mân yn ffrillian, ac yn trydar, ac yn cogor, yn ddidor, ddiorffwys. Mae'r llwyn yn gyforiog o fywyd newydd-ieuanc! Dyma chwareule cywion o wahanol rywogaethau 'rol gadael o honynt eu nythod, a dyma eu training-ground. Yma, yng nghysgod y tewgoed cauadfrig, ac yn neillduedd tawel y glaslwyn, y dysgir hwy, gan eu rhieni, i 'hedeg, i ddethol eu tamaid, ac, efallai, i gyweirio tannau eu telynau. Gwelwch! Maent yn hedeg, maent yn gwibio, maent yn tasgu, maent yn picio,—fywioced ag arian byw, nwyfused a'r awel, sydyned a gwreichioniad seren, o gangen i gangen, o lwyn i lwyn, ac weithiau i'r awyr, dan switian, switian mewn gorhoenusrwydd. A yw dail y llwyn, dywedwch, yn cyfranogi o ysbrydiaeth yr adar? Gwelwch, maent yn cwhwfan, cwhwfan, fel baneri o bali gwyrdd, siderog, yn yr awel dawel dirion. Drwy'r ymarferiadau chwimwth hyn o eiddo'r

  1. Rosa rubiginosa,—Sweet Brier, Eglantine; rhoslwyn pêr, mieren Mair, eglantein.