Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cywion, cryfheir eu hesgyll, a pherffeithir eu hediad. Cyn hir hedant i'r nwyfre, ymhyfrydant yn eu hedyn tra deil tes yr haf a heulwen y cynhaeaf. Ond daw'r gaeaf. Yr adar tyner! Beth a wnewch chwi y pryd hwnnw pan y bydd y gwigfeydd cysgodfawr wedi eu dihatru o'u deilwisg gan farrug a rhuthrwyntoedd yr Hydref? Ni chewch i glwydo arno onid brigyn diddail, ac ni chewch gysgod namyn llwyn moel neu bren noethlwm. Ni wel miloedd o honoch yr haf nesaf.

Yr ydym yn dod i laslannerch rhwng y glasgoed—mor siriol, mor dlysgain. Wel, eisteddwn am ychydig ar y boncyff llorweddog yma. Hardded yw'r carped emerald! Try frithir ef, gwrr bywgilydd, gan doraeth, gan orthwf—o ffluron serenog, perlog, amryliw, a dafnau'r gwlithwlaw arnynt yn fflachio fel cabolwaith o risial. Y llecyn arddunol! Mae wedi ei oreuro, a'i ariannu—fel brithwe ysblenydd—â blodau'r ymenyn,[1] y creigros,[2] y meillion melyn bychain,[3] y pumnalen,[4] melyn yr eithin,[5] llygaid y dydd emrynt arian,[6] yr aspygan fu-

  1. Ranunculus bulbosus,—Bulbous buttercup. Chwys Mair, egyllt.
  2. Helianthemum Vulgare, Rock-rose. Cor-rosyn, Rhosyn y Graig, heulrôs.
  3. Trifolium Filiforme,—-Lesser yellow trefoil. Gwefelen.
  4. Potentilla Anserina, Pumbys, Pumdalen, Tinllwyd, Gwyn y Merched. Cinquefoil, Silver-weed.
  5. Tormentilla officinalis,—Common tormentil, Tresgl y Moch, Tresgl Melyn, Melyn Twynau.
  6. Bellis Perennis,—Daisy. Swynfri.