lygad,[1] a chnau'r ddaear[2] sy a'u blodau ffedonaidd fel clysdwr o ser arian! Yn y fan draw harddir ef gan duswau o flodau asur—cyn lased a'r wybren—megis y llaethlys eddïog,[3] llysiau Llywelyn, [4] a glesyn y coed;[5] ac yn y fan draw gan siobynau rhosliw-wridgoched â'r wawrnid amgen y meillion cochion,[6] ydbys y waen,[7] cribellau cochion [8] a'r tegeirian peraroglaidd talsyth![9]
Dyna. Mae'r dydd ar ddarfod. Mae cysgodau'r hwyr yn ymestyn, ymestyn. Hired yw cysgod y coed ar y fron draw! Mae'r aspygan yn cau ei emrynt arian ymyl-goch am y llygad aur. Ymorffwys tair dalen y suran ar felfed y goesig. Huna'r feillionen. Chwibiana'r bronfraith ei hwyrgan oddiarnom, ar frig yr onnen, a chlywir cân gosper y deryn du, fel sain leddf mosbib-draw, draw yn y pellder. Mae'r eurbinc, a'r asgell arian, a'r llinos, a gwas y gog,
- ↑ Chrysanthemum Leucanthemum—White Ox-eye. Esgob gwyn.
- ↑ Bunium Flexuosum,—Common Pig-nut. Daeargneuen, Bywien.
- ↑ Polygala Vulgaris,—Common milkwort. Amlaethai, Llysiau Crist.
- ↑ Veronica Chamaedrys,—Germander Speedwell. Rhwyddlwyn.
- ↑ Ajuga reptans,—Bugle. Golchenid, Llysiau Mair.
- ↑ Trifolium Pratense,—Purple clover.
- ↑ Lotus Corniculatus,—Bird's foot trefoil.
- ↑ Pedicularis Sylvatica,—Dwarf red-rattle.
- ↑ Gymnadenia Conopsea,—Sweet-scented orchis. Arian cor