yn ymbarotoi i glwydo rhwng y gwyrdd-ddail, tra y cyweiria'r ehedydd ei wely rhwng y blodau, ar lawr y weirglodd. Cyrhaeddodd yr haul ei gaerau yn y gorllewin. Mae ar fachlud. Fflamgoched ydyw! Gwelwch! Mae yn cusanu trum y mynydd. Gwrida'r gorwel fel rhosyn ! Mae'r belen eiriasgoch yn suddo, suddo. Mae o'r golwg. Teflir mantell y cyfnos dros fryn, dyffryn, a dôl, a diflanna'r cysgodau pan y maent hwyai. Brydferthed yw'r wybren! Entrych nef sy loew-las fel fflach y saphir. Ond O, y dwyrain! Edrychwch! Mae'n goelcerth! Mae yn banffaglu! Mae'r gwrid rhosliw gynneu wedi dyfnhau i ysgarlad, ac i borphor, a carmine. Mae ymyl-weoedd eddiog y cymyl bychain, ysgeifn, sy'n nofio ar y gorwel wedi eu haddurno ag aur, ac ag arian, ac a vermilion. Ogoneddused yw'r olygfa! Ond ni phery'n hir. Mae'r lliwiau llachar yn edwino ac yn diflannu. Gwelir ambell seren wen yn gwreichioni drwy'r asur. 'Mhen ychydig bydd milfil o honynt, fel gwlith y bore, yn boglynu crymgant y Nefoedd!
"Numerous as gems of morning dew,
Or sparks from populous cities in a blaze,
And set the bosom of old Night on fire!"