BORE TEG.
"Wele gawellaid o ffrwythydd haf."—Amos.
DYWED, ddarllennydd, a gefaist ti ddigon ar droion drwy'r wig? Naddo? Os felly ti ddeui, 'rwy'n sicr, am dro arall drwyddi? Gallaf dy sicrhau dy siomi nis cei. Pan roisom dro ddiweddaf ymylai ar hirddydd haf. Diwedd y gwanwyn, gwyrdd, gwenog ydoedd; er hynny 'roedd yn hinon naf y prydnawngwaith hwnnw. Y noson desog honno, ti gofi, suddai Phoebus mewn ysblander, yng ngherbyd fflamliwiog yr Haul, dros gaerau gwridog y gorwel nid nepell o'i heulorsaf haf[1] yn y gogledd. Odidoced oedd lliwiau teryll y cerbyd! Ei groglenni oedd o ysgarlad a phorffor, fel gwahanlen y Deml; a'u cyrf—ymylau oedd o liw'r aur melyn a fermilion. A wyt ti'n cofio'r olygfa? Misoedd a lithrasant ymaith er hynny, ebrwydded! mor ddiaros ag y llithra'r cwmwl acw dros gaeau lathrlas y Nefoedd! Erbyn hyn mae'r Huan, ar ei rawd diymaros i'r de, wedi croesi cyhydedd yr Hydref[2] hanner ffordd rhwng arwydd yr Afr[3] ac arwydd y Cranc,[4] a nos a dydd ogyhyd sydd. Dechreu yr Hydref braf symudliw ydyw.