Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Season of mists and mellow fruitfulness!
Close bosom-friend of the maturing sun,
Conspiring with him how to load and bless
With fruits the vines that round the thatch-eaves run."[1]

Boregwaith teg heulog ydyw. Awn allan. Onid yw yn hyfryd? Chwyth awel ffraw arnom oddiar Ddyffryn Clwyd. Cwyd cymylau ysgeifn brigwynion eu pennau dros derfyngylch y gorllewin. Cipdremiant, megis, dros drum y mynydd. Ymddyrchant. Daw eu sider-odrau modrwyog yn raddol i'r golwg, a gwelir rhimyn o'r wybr, fel môr o wydr, rhyngddynt a thrum linell banylog y mynydd. Ymledant. Daw'r awel hoew—sionc heibio iddynt. Chwery â hwy mewn direidi, ymgiprys â hwy mewn aspri, tyn hwy yn gudynau, crib hwy yn edefau, chwal hwy yn llinynau, a gyr hwy o'i flaen, gan eu dolenu, a'u fillio, eu crychu, a'u cyrlio, draws lawntiau'r asur, yn wanafau o wyn-wlan, ac yn Hochenau cannaid o fân-blu sidan. Hwythau, yn eu tro, fig-chwareuant â'r awel. Ymwasgar-ant; ymlechant yn y dyfnlas tawel. Ymrithiant drachefn drwy loewder yr asur; a'r haul, â phwyntil ei belydr, a'u lliwia cyn wynned a brig ewynnog y waneg! Dawnsiant, dawnsiant, ar lwyfan dryloewferth y wybren, a diflannant yng nghwmni yr awel dros orwel y dwyrain!

Ond awn i'r wig. Pan fuom drwyddi ddiweddaf deced ydoedd yn ei harddwisg werddlas —ysgafnwisg gwanwyn a haf! Gorwychid hi gan ysnodenau, a garlantau, a phlethdorchau of Hodau amryliw, o binc, ac o wyn, ac o goch, ac oliw'r hufen melynwyn. Enhuddid hir-gang-

  1. Keats