Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

au'r geiriosen, a'r yspyddaid, yng nghyda cheinciau ysbinog yr eirin-bren, a'r ddreinberth, gan fflurblethau lluganol,

Wynned a'r donnog luwehfa,
Neu eira un-nos ar lechweddi'r Wyddfa."

Prydferthwch y blagur a'r blodau, hawddgarwch y gwanwyn-tymor gobaith-ydoedd. Ond arall yw harddwch gwanwynol y wig ac arall ei harddwch hydrefol. Gwelwch! Erbyn heddyw mae'r coed a'r llwyni a'r prysgwydd wedi ymwisgo yn rhwysgfawr mewn "siaced fraith" o ruddgoch a llwydgoch, a melyn o eiliw'r eurafal a'r lemon Mae'r ffluron wedi rhoi lle i ffrwythau ac aeron ffloewgoch a phorffor. Mae blodau cann y fieren wedi troi yn fwyar duon. eirin duon bach,[1] ddued a'r muchudd, a'r glasbaill ar eu grudd, wedi cymeryd lle gwullion eirianwyn yr eirinberth. Wele dlysineb y ffrwythau a mireinder aeddiedrwydd yn gymysgedig a phrudd-degwch gwywedigaeth!

Nature strips her garments gay
And wears the vesture of decay."

Mae'r gwlithwlaw yn drwm ar y glaswellt. Mae dyferynau trybelid ddyhidlwyd o fynwes ddihalog y Wawr, fel gleinresi o risial ar lesni y borfa. Croga perl-ddatnau, dryloewed a

gemau Golconda, ar fein-flaen aflonydd yr irwellt. Pefriant. Ergrynant yn yr awel, fel tannau telyn Eolaidd, a flamia o honynt gynghanedd o liwiau fel seithliw eiriandeg yr Iris.

  1. Eirin perthi, eirin tagu, eirin surion (sloes).