Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae plygion y fantell Fair[1] sy dan ein traed, a rhidens ei chyrfymylau, yn dry frith o fân emau; a chrynna, crynna dagrau claerwyn perlog ar wrid aeron y ci-rôs, ac ar ruddgoch cyrawel y ddraenen wen oddiarnom.

Mae'r deryn du a'r bronfraith ar y donnen las yn prysur gasglu eu lluniaeth o falwod, a chynron, a thyrchfilod—dyna eu bill of fare cyffredin—er y dewisant weithiau, hefyd, saig o ryfon, a mafon, a mefus, ac o rawn aeddfed y gerddinen a'r ysgawen. "A roddech iddynt a gasglant." Pigant y pryfetach uchod o'u tyllau, a'u llochesau, a'u hymguddfeydd; tyllant a thiriant am danynt â'u pigau blaenllym, crynion, hyd wraidd y llysiau. Tynnant y malwod o'u cregin, y llindys o'u hamwisg harddfanog, a'r maceiod o'u cocoons sidan, ac ysant hwy yn gegrwth—with a relish! Gwelwch fel y chwalant dwmpathau pridd y wâdd, a thom gwartheg a cheffylau, yn wasarn, am y cyfryw arlwy amheuthyn. Mae'r bronfraith acw, wrth chwilio yn y mwsogl, wedi cael gafael ar falwoden iraidd mewn cragen. Pa fodd y tyr y gragen? dywedwch. Gadewch i ni weled. Mae yn ei chymeryd ar frys gwyllt, yn ei gylfant, ac yn disgyn yn y fan draw ar gyfyl carreg. Tery hi'n ddeheuig wrth honno, dro ar ol tro, dro ar ol tro. Gyfrwysed onide? Ysbiwch! Mae'r cogwrn o'r diwedd yn deilchion, a'r chweg dameidyn—y rare-bit—yng nghylfin y deryn! Llwnc ef yn ddihalen. Y fath flas a ga arno! A oes dwr yn rhedeg o'ch dannedd? dywedwch.

  1. Alchemilla Vulgaris: Common lady's mantlemantell Fair gyffredin, palf y llew, troed y llew.