Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

garanbig llachar[1] —câr agos i'r goesgoch.[2] Fel eiddo honno, mae'r coesau a'r crynddail bumllabed miniylchog, rai yn wyw-goch amliw, a'r lleill yn wyrdd-dirfion gan ireidd-der ieuenctid. Ffynna swp o glych yr eos[3]the blue bells of Scotland

"With drooping bells of clearest blue,"

ar gyfyl y dyryslwyn sy yn ymyl. Crynna, sigla, y elychau goleulas ar flaenau fflurgoesau bron feined a blewyn. Y chwa-awel dyneraf a'u gyr i ganu. Gelwir hwy yn "Glychau y Tylwyth Teg," am y tybid, mewn ffansi, fod clustiau y bodau Liliputaidd hynny yn ddigon teneu i glywed tinc-seiniau isel y clychau asur. Gwelwch, rhwng brigau'r pren y gwyl-lecha'r breninllys—[4] aelodau o dylwyth persawr y mintys.[5] O gesail y dail y tardd troelleni o fân fluron lliw'r rhosyn. Hygared y gwridant rhwng dail gwyw-liw melynwawr y coed cyll a'r mieri Dygant i'n cof ddwy linell enwog-dilys na wnawd dwy dlysach—y bardd Gray,

"Full many a flower is born to blush unseen,
And waste its sweetness on the desert air,"


  1. Geranium lucidum: shining crane's bill-pig yr aran disglaer.
  2. Mae'r ddau yn aelodau o deulu pig yr aran" [Germaniceae] neu mynawyd y bugail." Gelwir y llwyth yma felly am fod eu hadgibau yn dwyn delw pig yr aran neu fynawyd.
  3. Campanula rotundifolia: harebell—glas y llwyn, croesaw haf: clychlys.
  4. Calamintha Clinopodium: Wild basil—brenin-llys. gwyllt.
  5. Calamintha.