Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yng nghyda chyfieithiad rhagorol Dafis Castell Hywel o honynt sy cystal a'r gwreiddiolGwrandewch,

"Ac mae'r blodau teca'u lliwiau,
Lle nas gwelir byth mo'u gwawr;
Ac yn taenu 'u peraroglau
Lle na sylwa neb o'u sawr."

Ple mae'r myrdd blodau arian harddai wyrdd lethrau'r fron? Gwena swynfri[1] ar fwyn lesni'r twyn gyferbyn. Welwch chwi ef? Hoffed ydyw o'r haul! Gwyra ar agwedd cariad tuag ato, a cheidw ei lygad arno tra deil hwnnw i d'wnnu. Edrychwch! Mae ei osgo a'i ystum ymestynnol yn ardeb byw o ddyhead serch am wrthrych ei ddyhewyd. Awn yn agosach ato. Dyma fe! "A little Cyclops with one eye "[2] a'r llygad hwnnw, welwch chwi, fel o aur dilin wedi ei osod yn dwtnais mewn mortais beithynog o lafnau emerald, a'r emrynt serenog yn arian claerwyn wedi ei fannu gan frychau dyfngoch y ruby. Dyna i chwi gyfuniad goludog o liwiau! Sylwch deced yw'r gwrid ar wynder yr emrynt! Mor gain yw'r cyferbyniad sy rhwng melyn y boglwm a gwyn cannaid y cwmpas! Y gwyl flodyn bychan! Nid rhyfedd ei alw gan y Rhufeiniaid wrth enw[3] a olyga "y peth del," neu "yr un tlws." Onid un od o ddel ydyw? Gelwir ef gan y Ffrancod yn marguerite[4] a chan yr Italiaid yn margarita

  1. Llygad y dydd.
  2. Llinell o folawd Wordsworth iLygad y Dydd."
  3. Bellis neu bellus yw'r gair Lladin arno. Ei ystyr yw "del," pert," "tlws" (pretty).
  4. Gelwir y gold gwynion (ox-eyed daisy) gan y Sacson yn marguerites.