Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—dau air cyfystyr â'r enw Margaret—a gŵyr pob Marged, a Phegi, a Maggie mai "perl" neu "em yw ystyr hwnnw. Ai nid parod ych i ddweyd mai priodol yw'r enw?

Craffwch arno'n fanylach. Ond, gan gofio, dyma chwyddwydr,—rhoddwch hwn arno chwi a welwch ar unwaith y gwneir y llygad argrwn—unlliw ag aur—i fyny o nifer mawr o foglymau bychain, del—neu lygadenau, os mynnwch wedi eu gosod yn eisteddog, ochr yn ochr, ar glustog bigyrnog ymylwen.[1] Onid ydynt yn daclus o glos ac yn odiaeth o glws? Tebyg ydynt i fân balmant o aur pwyedig neu facets llygad trychfilyn. 'Rwan chwi synnwch pan ddywedaf wrthych fod pob un o'r llygadenau hyn yn flodyn perffaith wedi ei gynysgaeddu â phrydferthwch lliwiau ac â chymesuredd ffurf, ac yn meddu ar bob ermig anhebgor er adgynyrchu ei ryw! Yng nghylch cyfyng y llygad llai na chwarter modfedd ar ei draws-gellir cyfrif o'r cyfryw flodionos gynifer ag o bedwar ugain i gant-weithiau ragor a phob unigolyn o honynt-pob un, cofiwch yn cynnwys blodamlen,[2] a choronig,[3] a phaledryn,[4]25 ac wyfa,[5] a rhithion,[6] a phump o gydau[7] gorfychain

  1. Perthyn y swynfri neu lygad y dydd i dylwyth pwysig a lliosog y blodau cyfansawdd (compositae). Cymharer ef â charn yr ebol, yr curwialen (golden rod), greulys (groundsel), gold (chrysanthemum), dant y llew, a'r ysgall—yr oll o'r un tylwyth—a gwelir ar unwaith y tebygolrwydd sy rhyngddynt. Dygant, un ac oll, nodau amlwg y teulu.
  2. Calyx.
  3. Corolla.
  4. Pistil: yr ermig benywaidd.
  5. Ovary.
  6. Embryo
  7. Anthers.