Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tyn-lawn o baill,[1] yn hongian ar bump o frigerau[2] meinion, unionsyth glaerwyned bob un a phibonwy!

Ai nid ydych yn coelio? Wel, hwdiwch; dyma chwyddwydr cryfach. Edrychwch drwy hwn. Welwch chwi, mae'r blodionos sy ar ymylgylch y llygad aur—ar ororau yr arian—yn llydan agored. Cil-agored yw y rhai sy uwch i fyny—fel pe ond hanner effro; tra y mae y rhai sy ar y trum mewn trymhun mor dlws-ddigyffro chwsg plentyn! 'Rwan, sylwch-drwy'r chwyddwydr eto—ar un o'r blodionos llawn agored. Mae'r goronig ar ffurf pibell fain, a'i genau bum-llabed yn ymledu a rhaiadu fel pelydr seren. Welwch chwi hi? Yng nghanol y goronig, ac yn uwch o'i phen na hi, y saif y golofnig dal fenywaidd, a'i brig deupen gloew yn frith gan baill; yng nghyd a phump o frigerau gwrywaidd, ysgwydd wrth ysgwydd, amgylch ogylch iddi yn ei gwylio'n eiddig, fel gwarchodlu trefnus o filwyr cefnsyth. Llecha'r wyfa a'i rhithion ynddi yng ngodre'r paledryn, ac nis gellir ei gweled oni rwygir y blodyn. Drwy'r gwydryn chwi welwch y rhannau. A goeliwch chwi 'rwan?

Rhoddwch y chwyddwydr heibio, ac edrychwch hebddo. Chwi allwch, fe allai, wrth graffu, o'r braidd weld y blodionos gyda'r llygad noeth, ond anodd ydyw eu gwahaniaethu y naill oddiwrth y llall. Ond am y cydau

  1. Pollen, yr elfen fywiol sydd i ffrwythloni'r rhithion yn yr wyfa.
  2. Stamens, yr ermigau gwrywaidd. Cyfeiriais at yr holl rannau yma o'r blaen yng nghyswllt a dail suran y gog.