Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

paill, wel, mae y rheini, gallwch feddwl, ar "riniog cudd yr anwel," gan fod pump o honynt, yng nghyd â'u brigerau, yn cael lle ehelaeth, yng nghwmni'r golofnig, yn ystafell gul, fain, y goronig. Wyddoch chwi! Os ydyw y cydau eu hunain mor fychanig—mor or—fychanig —fel y rhaid wrth fwyadur cryf i'w canfod, pa mor anirnadwy fychain, pa mor anamgyffredadwy ddiswm raid fod y gronynau —y llychynau—sy ynddynt pan y cynnwys onid un cwdyn o'r pump ugeiniau, os nad cannoedd, o'r cyfryw ronynau. Ac eto, sylwch, mae'r gronynau hyn, er mor anfeidrol fychain ydynt, eu hunain yn gelloedd neu gydau llawn o hylif a themigau manach fyth. Rhwng gwerchyrau y temigau hyn—rhywle, rywle, yng nghilfachau eu tra-gorfychander—y cloir i fyny ac y trysorir yr elfen fywydol, gyfrin, gudd, sy drwy gyfrwng rhannau ystlenol y blodyn i ffrwythloni ac i fywhau hadrithion diymadferth yr wyfa.[1] Welwch chwi y gofal a gymerir i ddiogelu y wreichionen fechan fywydol. Cauir hi i fyny, gell yng nghell, rhwng muriau triphlyg, a phedwar plyg, neu ragor, rhag myned o honi i golli cyn cyflawni ei swyddogaeth.

Y swyniri siriol! Er bychaned ef, onid yw'n gyfanwaith meindlws cymesur? Mae ei adeilwaith o'r fath deleidiaf. Edrychwch arno unwaith yn rhagor. Mewn llun mae gryned a chant y lleuad. Onid yw, mewn gosgedd, yn od o dlysgain? Pwy ddel-luniodd ei ddalennau arian? Pwy fu'n gloew-lyfnu ei fain gol-

  1. Dangosais, mewn ysgrif flaenorol, pan yn son am ddail suran y gog, sut y dygir y weithred o ffrwythloni'r rhithion oddiamgylch.