Beth sy'n taflu ei gysgod arnom? Edrychwn i fyny. Mae haid o adar y drudwy[1] yn pasio fel cwmwl oddiarnom a "Swish—sh—sh—shs!" eu hadenydd yn suo'n yr awyr fel chwyrnelliad dengmil o saethau. Maent yn gwneyd am y cae acw lle y pora ychydig adefaid ym mhlith haid o dda blithog. Disgynnant arno'n chwap, mor ysgafn a manblu'r ysgall, ac ymgymysgant â'r twr brain sy yno'n barod. Crawcia'r brain pwyllog; dadyrdda'r drudwenod. Nesawn atynt yn ddistaw, gan gadw'r gwrych rhyngom â hwy. Gloewddu, gydag adlewyrchiadau wyrdd copraidd neu o las, neu neu o borffor, yw lliw eu clogau, a phob plufen loewlefn yn ymyledig â gwyn a melyn. Brydferthed mentyll yr adar gwisgi! Sidan wisgoedd symudliw ydynt, a myrdd o ffloew emau yn fflamio arnynt.
Mor fyw yw'r adar! Rhedant, gwibiant, tasgant ar hyd y cae gan bigo'r pryfaid sy ar y borfa. Dacw ddau o'r adar yn ysboncio'n orwyllt i'r awyr, big ym mhig, gan ymgiprys yn drystiog am ddim ond abwydyn. Cogrant—glywch chwi hwynt?—yn ddoniol-gwerylgar. Ymlaen a'r haid adar. Ceisiant, fel glewion, flaenu eu gilydd. Cwyd twrr yma a thwrr acw ar eu hedyn yn sydyn, a disgynnant yn eofn y tu blaen i'r fintai. A dyna drystio, a dwrdio, a chlochdar, a ffraeo! Tarfir hwy gan rywbeth; codant gyda'u gilydd; a disgynnant chwaff mewn man arall. Beth wna un o'r adar ar gefn gwlanog y ddafad acw? Chwilio mae yno am dorogenod. Mae'r mathau hynny o bryfaid yn amheuthyn iddo. Paham yr ymdyrra'r drud-
- ↑ Starlings. Gelwir hwy yng ngogledd Ceredigion yn "adar yr eira." Paham?