Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wys o amgylch y gwartheg? Wyddoch ohwi ddim? Gwyddoch, ond odid, mai nid â'u dannedd y pora eidionau. Torrant y glaswellt trwy ei blicio â'u tafod. Fel hyn ysgytir ychydig ar y gwreiddiau, a llacia'r gweryd o'u cwmpas ac aflonyddir ar noddfeydd y mân bryfaid sy yno.

Mae'r ysgwydiadau ysgeifn hyn yn ddaiargrynfau, iddynt hwy. Rhuthrant yn gyffroedig i'r wyneb, yn drychfilod ac yn gynron, yn lledwigod ac yn rhilion, et hoc genus omne, a chipir hwy'n chwipyn gan bigau yr adar sy'n disgwyl am danynt. Lle mae lluniaeth, yno yr ymgasgl yr ednod. Mae profiad yn eu dysgu lle mae hwnnw i'w gael.

Mae'r adar ar wasgar dros ran fawr o'r maes, fel foragers byddin yn ymofyn am borthiant. Mae'r lliaws, chwi welwch, yn dal i bryfeta yn agos i'r praidd. Mae rhai yn fân dyrrau—detachments—yn chwalu ysgarthion ac yn chwilio'n y llanastr am chwilod y dom. Cant afael mewn chwilen, ysgwydant eu hedyn, llamhedant, meinleisiant mewn hoen. Rhown floedd, "Shw-w-w-w!" Yn sydyn, gyda'u gilydd, ar unwaith, codant yng nghwmni'r brain trwm-edyn, fel crinddail o flaen corwynt, a disgynnant gyda "Whish-sh-sh-sh!" gan glegar a chogor, ar y gwrychoedd a'r coed sy ogylch y cae. Cadwn yn llonydd a distaw. Yn union deg disgynnant o'r cangau, ar y cyntaf o un i un, yna yn ddau ac yn dri ac yn bedwar, neu chwaneg, fel dail yr Hydref pan chwyth yr awel, ac ymchwalant eilchwyl, rhai yma rhai acw. Ail-ddechreuant bryfeta a gwancus fwyta. Unwaith eto, "Shw-w-w-w!" Adlamant, rhuthrant i'r rheng, llithr-hedant fel cysgod cwmwl, codant dros y gwrych a diflannant o'n golwg.