Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CARWRIAETH Y COED.

Gwelw-felyn ydyw'r coed,
Gwelw, gwelw, fel eu hoed;
Ond er cwympo'r dail yn wyw,
Y mae'r brigau eto'n fyw;
Gwelir eto fywyd ail
Yn blaguro yn y dail.
—Glasynys.

EBRWYDDED yr a blwyddyn heibio! Gyflymed y treigla'r tymhorau! Ehedant ymaith megis breuddwyd, megis gweledigaeth nos; ciliant fel cysgod ac ni safant. Bu Hydref, a Gaeaf, a Gwanwyn er y buom drwy'r wig ddiweddaf. Mae'r Haf braf ar ddarfod, ac, unwaith eto, wele ni ar drothwy yr Hydref.

Mae'n awr anterth—ymlwybra Brenin y Dydd mewn gwybren loew. Dring mewn urddas i'w orsedd yn yr entrych, a lleinw ei odrau dem Natur. Nid oes cymaint ag ysbryd cwmwl i bylu ei ysblander. Tywallt ddyli o oleu ar ddol a mynydd. Rhydd wisg o wawl ar lesni'r borfa; gloewa rigolau'r glaswellt; a gwna fân enfysau o ddefnynnau'r gwlith. Tywynna ei ogoniant fel flam ar geinder y blodau. Gwna ffluron yr eithin yn ffloew euraidd, a glâs y grug yn ffaglau eirias. Goreura edyn y gwybed sy'n chware yn ei belydr; gleinia hadau adeiniog yr ysgall; a theifl ar fain-linynnau yr eurwawn hilyn arian.

Yr ydym ar bwys y wig. Awn iddi. Dyma ni yn ymyl helygen grynddail wrryw, friglydan, liosgainc. Gwelsom hi, os ydych yn cofio, yn