Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynnar yn y gwanwyn, dan goronbleth o flodau aurfelyn, pan nad oedd ei dail onid blagur tyner enhuddedig. Mae'r blagur hynny, erbyn heddyw, yn ddail rhychog—wedi heneiddio ac yn disgyn yn ddiymadferth,—un yma ac un arall acw, gan wegian a chrynnu, ar ddeilgangau y rhedyn cringoch sy'n amgylchu y lle. Ddistawed yw dan gysgod y pren! daweled! Ymleda y brigau fel cromen oddiarnom! Nid ysgog yr osglau ystwyth bwaog gan esmwythed yw'r hin—yn unig plygant i gusanu aeron cwrel y farch-fieren, a chyrawel ysgarlad yr ysbyddad sy'n tyfu ar y cyfyl.

Mae dail yr helygen, fel eiddo coed ereill, i'w cael ar y brigau dyfodd yr un tymor a'r dail eu hunain. Mannir y rhannau ôl o'r cangau gan aml i ddyfngraith—olion hen-ddail blynyddoedd fu. Ond i ni sylwi, cawn fod blagur, tebyg o ran maint, a lliw, a llun i wenithrawn ir, heb gwbl aeddfedu, wedi ymffurfio eisoes yng nghyswllt y dail hen a'r cangau ifeinc. Ymddengys y bywyd newydd hwn i mi fel pe yn gwneyd ei oreu, drwy gyfrwng yr ysgewyll bonbraff a blaenfain, i wthio yr hen dros erchwynion y cangau. Ceir bywull cyffelyb ar goed ereill y wig, ond nid mor fawr a blaenllaw eto ag eiddo'r helygen. Duon fel ebon yw impynau yr onnen, gwyrdd yw rhai y fasarnen, a llwydgoch yw eiddo y gollen a'r pren ffawydd. Felly gwelwch y cenhedlir gynared a hyn—yn nechreu yr hydref—rithion y bywyd llysieuol a ffynna yn ystod y gwanwyn sy i ddod. Cwsg y rhithflagur hyn drwy fisoedd y gaeaf, ac mor gywrain a chelfydd yr enhuddir hwynt; mor glos a diogel, a diddos yw eu hamwisg; ac mor glyd yw eu glythau, fel nas gall nac oerwynt, nac