Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eira, na barrug, na holl osgordd adwythig y gaeaf eu difa na'u difwyno.

Ond âg egin yr helygen y mae a wnelom yn bresennol. Tynnwn un o honynt o gesail y ddalen ac archwiliwn ef. I'r diben yma daliwn ef rhwng bys a bawd ac, âg ewin y bawd arall, agorwn, gyda gofal, odrau y gyfanwisg wydn allanol. Gwasgwn ychydig ar ei thop, ac, wele, llithra o honi, yn gnepyn llathrwyn, y peth tlysaf a delaf a welsoch erioed. Dyma fe ar gledr fy llaw. Edrychwch arno. Onid yw fel perlyn gorlyfn neu ddafn aflonydd o arian byw? Beth ydyw? meddwch. Wel, dyma un o flodau'r helygen yn ei fabandod, newydd ei dynnu o'i gryd, a'i ddillad magu—ei infant robes—yn rhwym am dano. Craffwch arno a chewch ei fod wedi ei orchuddio drosto â thrwch o arianflew deced a'r eurwawn ac esmwythed a'r pali. Drwy y mwyadur ymddengys y gorchudd hwn fel gwynwallt henwr neu gnu cân y ddafad. Eto, tynnwch eich bys yn ysgafn dros y blodyn, o'r blaen i'r bôn, a chwyd amryw o ddail bychain cafnog i fyny o flaen eich bys, a neidiant yn ol yn hydwyth pan dynnwch eich bys i ffwrdd. Tardd y mân ddail hyn o waelod y cnepyn a chauant am dano fel hulingau gwyn-wlanog i'w ddiddosi. Dyma i chwi ofal am faban-flodyn helygen!

Mae ugeiniau o egin ar bob cangen. Gan eu bod i oroesi gerwinder y gaeaf, amgauir hwy —a'u blew—glogau ym mhlyg am danynt rhwng gwerchyrau awyrdyn eu celloedd, a chysgant yno, fel y crybwyllasom eisoes, tra pery yr oerfel. Pan anadla ysbryd y gwanwyn arnynt, ni fydd hualau a'u dalia yno. Ergrynant gan guriadau bywyd, cilia eu syrthni, ac