Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymwingant yn eu gwelyau. Yn union deg dechreuant dyfu, cynhyddant, ymchwyddant, torrant drwy barwydydd eu carchar, a chan ymwthio drwy haenau a phlygion eu gwenwisg, ymagorant, fflachiant yn flodau,-ar y cyntaf fel cnapiau o arian, yna o aur, a bydd amlycach na'r dderwen sythfalch yr wyl helygen grymedig!

Helygen wrryw? A ydyw hyn yn golygu fod helyg benywaidd? Ydyw. Gadewch i ni egluro. Fel hyn. Mae planhigion yn byw, yn bwyta, yn yfed, ac yn tyfu. Carant, priodant, rhoddant i briodas, a chodant deulu. Eu plant yw yr hadau, cynnyrch tad a mam. Chwi gofiwch, canys dywedais wrthych o'r blaen, mai blodau yw organau adgynhyrchiol planhigion. Unig swyddogaeth y blodau yw cynhyrchu had. Mae eu ffurf, a'u harogl, a'u lliwiau ysplenydd, a'u cwbl, yn gynorthwy iddynt gyflawni eu gwaith pwysig yn llwyddiannus.

Yn y dosbarth lliosocaf o blanhigion, mae y gwrywaid a'r benywaid—y tadau a'r mamau yn byw yng nghwmni eu gilydd—dan yr enwau briger a phelydr—yn yr un blodyn, fel teulu cymysg o wŷr a gwragedd yn preswylio dan yr un to. Caru? Gwnant. Fuoch chwi 'rioed yn sylwi yn y blodyn deuryw, fel y gwylia y briger eu cydwedd fenywaidd, ac y moesymgrymant, ar droion o'i hamgylch, i dalu iddi warogaeth o serch? Welsoch chwi hithau yn codi neu ostwng ei phen, yn ol fel bo'i thaldra, i dderbyn o gusanau ysgeifn y briger?

Mewn dosbarth llai, ni chymysgir y rhywiau, ond triga y gwrywaid gyda'u gilydd—fel clwb o hen lanciau—heb fenyw yn eu plith, mewn un blodyn; a'r benywaid gyda'u gilyddfel clwb o hen ferched—heb wryw yn eu mysg,