Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn blodyn arall. Gelwir y ffluron nad oes iddynt ond briger yn unig yn flodau gwrywaidd; a'r rhai nid oes iddynt ond pelydr yn unig yn flodau benywaidd, i'w dynodi oddiwrth y blodau deuryw y gwullion gwryw—fenywaidd (hermaphrodite)—welir yn y mwyafrif mawr o lysiau y maes.

Yn aml ceir y blodau gwrywaidd a'r rhai benywaidd yn preswylio ar wahan ond ar gangau yr un pren, fel mân gymdeithasau o wŷr a chymdeithasau o wragedd yn byw, fel y cyfryw, yn yr un pentref ond nid yn yr un tai. Esiamplau o hyn yw y gollen, y fedwen, a phidyn y gog. Pryd arall ceir y blodau gwrywaidd a'r blodau benywaidd ar brenau gwahanol fel clybiau o ddynion yn byw mewn pentref yma, a chlybiau o ferched yn byw mewn pentref arall ac heb gysylltiad yn y byd rhwng y pentrefi a'u gilydd. 'Rwan, sylwch. I'r math olaf yma y perthyn yr helyg. Gwrywaidd yw yr helygen yma sy'n taflu ei changau drosom. Benywaidd yw honacw welwch chwi draw. Ganfyddwch chwi ryw ragor rhwng y ddwy yrwan? Dim. Maent yr un fath yn union yn eu hagwedd, a'u dail, a'u hosgo. Ond pan agoro'r blodau yn nechreu Ebrill bydd y gwahaniaeth yn amlwg i bawb. Bydd pob blodyn ar hon yn dwryn o friger, neu ermigau gwrywaidd-felyned a'r aur; a phob blodyn ar honacw yn grugyn o belydr neu organau benywaidd—loewed a'r arian. Nid dillynach yw brieill a mill Ebrill a Mai na'r helygen gadeiriog dan goron o flodau.

A ydych chwi'n cofio ystori Priodas y Blodau? Dywedais wrthych yn y stori honno, pan yn son am ddail suran y gog, fod yn rhaid i baill yr ermigau gwrywaidd gael ei ddwyn, drwy