ryw foddion neu gilydd, i gysylltiad—i gyfyrddiad â rhannau arbennig o'r organau benywaidd er ffrwythloni'r olaf a chynhyrchu o honynt had. 'Rwan, pa fodd y trosglwyddir paill yr helygen wrryw yma, dyweder, i belydr yr helygen fenyw acw, sy encyd o ffordd—led cae-oddiwrthi? Pa fodd y gweinyddir y briodas? Hoffech chwi wybod? Gwrandewch ynte. Ar ddyddiau heulog yn nechreu gwanwyn, pan fo'r briallu, a'r anemoni, a'r milfyw allan, a'r helyg hyblyg yn eu llawn flodau, gedy y gwenyn gwâr eu cychod, a'r gwylltion eu tyllau, lle llechent y gaeaf. i geisio lluniaeth 'rol hir ympryd. Gwyddant fod ym mlodau'r helyg fara a mêl iddynt; ac, a hwy yn newynog, aroglant yr arlwy o bell. Hedant yma, hedant acw; a daw lluoedd o honynt dan ganu i'r goeden hon. Gwibiant rhwng y cangau; suo-ganant; disgynnant ar y blodau, a chasglant o'r paill—canys dyna eu bara hwynt—ond cymaint sy o hwnnw ym mân gydau'r briger, fel y syrthia, megis aurdywod, ar sidanflew eu brithwisg, a glyna yno. Yna, a'r llwch yn drwch ar eu gwisg, ehedant, ond odid, i'r goeden fenyw i hel mel o'i blodau. Tra yno'n ymdroi, yn naturiol, syrth peth o'r paill sy'n britho eu blew ar rannau gludiog, sensitive, y pelydr benywaidd, ac wele, dyna y cyffyrddiad wedi cymeryd lle, dyna y briodas wedi ei gweinyddu drwy gyfrwng y gwenyn prysur min felus.
Tariasom yn hir yma. Bellach symudwn ymlaen gydag ymyl y gwrych. Ganol haf eurfrithid y carped lle cerddwn gan flodau claerlyfn crafanc y fran. Amled oeddynt a llygaid y dydd. Erbyn heddyw, o'r teulu mawr a lliosog hwn, nid oes yn weddill namyn ychydig