Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

au, fel pe yn ei hamddiffyn, mae bagad o friger a'u paill-gydau hirion yn dechreu arllwys eu cynnwys yn gawodydd aur ar rannau ereill y blodyn. Yma, gan hynny, ac yn wahanol i'r helyg, mae y gwrywaid a'r benywaid yn byw gyda'u gilydd yn deulu cryno, comfforddus, cariadus megis o dan yr un gronglwyd glyd a diddos. "Felly," meddwch, "medr y blodyn yma ffrwythloni ei hun, am y gall y paill syrthio o'r briger ar gnepynau y paladr sy'n trigo gerllaw iddynt; ac nid oes angen cyfryngau i gario yr elfen fywiol o'r naill flodyn i'r llall." Na, nid fel yna yn hollol. Dywedodd un naturiaethwr enwog[1] nad yw Natur yn dewis i flodyn perffaith gael ei ffrwythloni gan baill o'i friger ei hun. Mae briger a phelydr yr un blodyn yn. gyfneseifiaid yn frodyr a chwiorydd; felly mae'r berthynas yn rhy agos i'w hundeb allu cynhyrchu hadau bywiog a ffynadwy. Fel rheol ond. y mae eithriadau—ffrwythlonir pelydr blodyn deuryw gan baill o friger blodyn arall, o'r un rhywogaeth, wrth gwrs. Gelwir hyn yn groes-ffrwythiant. Fel y mae ym myd yr anifeiliaid, ac yn nheulu dyn—mae cymysgu gwaed yn fuddiol yno—felly hefyd yn y deyrnas lysieuol. Tuedda croes-ffrwythiant i gynhyrchu hadau, a blagur, ac epil, a ddaliant eu tir yn yr ymdrech fawr am fodolaeth-yr ymdrechia ryfedd, gyfrin, ddidrugaredd honno sy'n araf a dygn ymweithio, sy'n troedio'n uchel falch, os mynnwch, drwy fywyd y cyfanfyd.

Wel," meddwch unwaith eto, os nad yw Natur yn dewis i'r blodyn yma ffrwythloni ei hun, ac efe yn flodyn deuryw, beth sy yma i

  1. Sprengel.