rwystro hynny, a pha fodd y dygir y croesffrwythiant y soniwch am dano oddiamgylch?" Mae yma ddarpariaeth gywrain i'r perwyl, a dyma hi.
Ym mlodyn crafanc y fran—canys â hwn y mae a fynnom yn bresennol—nid yw y gwrywaid a'r benywaid yn aeddfedu gyda'u gilydd, hynny yw, nid ydynt yn cyrraedd oedran priodas yr un adeg. Daw y briger i'w hoed yn gyntaf, ac yna y pelydr encyd ar eu holau. Yn ieuenctid y blodyn, pan egyr ei aur-lygaid gyntaf, y gwrywaid yn unig sy'n aeddfed. 'Rol gwywo o honynt hwy, a'r blodyn yn gyflawn o ddyddiau, yna daw y benywaid hwythau i gyflwr o aeddfedrwydd. Wel, 'rwan, lle bynnag y gwelir toraeth o'r ffluron hyn bydd y naill hanner o honynt yn y sefyllfa wrywaidd, a'r hanner arall yn y sefyllfa fenywaidd. Dyna hwy felly, i bob diben ymarferol yng nglyn â'u priodas, yn yr un cyflwr yn union a blodau yr helyg, hynny yw, mae eu rhannau ystlenol ar ffluron gwahanol, bellter mwy neu lai oddiwrth eu gilydd. Felly mae'n rhaid wrth gyfryngau allanol yma eto er trosglwyddo'r paill o friger aeddfed blodyn ifanc i belydr aeddfed blodyn hynach. Beth yw y cyfryngau yn yr achos yma? Ai y gwenyn? ai y cacwn? ai ieir bach yr haf? Prin. Dewisant hwy, pan fo amlder blodau ar y ddaear, ymweled â'r gwullion gleision a chochion, a phorffor. Gadawant y gwaith. o ffrwythloni blodau melynion i'r gwibed, a'r cylion, a'r cler, a'r chwilod. Disgyn y rhai hyn ar flodau crafanc y frân i chwilio am y melusfwyd, cludant y paill ar eu traed, a'u blew a'u pennau o'r naill flodyn i'r llall,—fel y gwna'r gwenyn ym mlodau yr helyg, a chânt ddyferyn o fêl o fonau'r fflurddail yn dâl am