Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CRAFANC YR ARTH.

The north-east spends his rage; he now shut up
Within his iron cave, the effusive south
Warms the wide air . . . . . . .
Not such as wintry storms on mortal shed,
Oppressing life; but lovely, gentle, kind,
And full of every hope and every joy
The wish of Nature.—Thomson.

"TRI pheth," medd y wireb, "anhawdd eu nabod,—dyn, derwen, a diwrnod." Dywed hen air arall,—"Nid y bore y mae canmol diwrnod teg." Digon gwir, os digwydd i hwnnw fod yn un o foreuau Chwefrol afrywiog. "Praise a fair day at night," ebe'r Sais yn eithaf priodol. Ond boed hynny fel y bo, mae'n fore braf heddyw. Mae'n fwynder haf yn nyfnder gaeaf.

Mis troiog, trystiog, rollicking, fel rheol yw Chwefrol. Yrwan, a'r flwyddyn yn ieuanc, nwyfus a gwantan yw Natur fel hogen benchwiban. Fynychaf hi chwery mewn afiaeth â'r Gaeaf er garwed ei drem a thaioged ei dymer. O hir gyweithas â hwnnw, yn sydyn rhydd hoewlam o'i afael, a phletha ei breichiau yn glwm am fwnwgl y Gwanwyn, a thros ei ysgwydd teif winciad ddireidus ar swynion yr Haf ymrithia encyd oddiwrthi yng nghaddug y pellder.

Ie, mis gwamal ac oriog yw Chwefrol. Rai dyddiau yn ol rhuthrai'r storm bygliw yn orddig o ororau eiryog y gogledd dros frig y Foel Famau. Lledodd ei hedyn lliw'r ebon, fannid