Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan blu gwyngan yr eira, dros lesni yr awyr. Taranai'r mynyddoedd, ac udai cilfachau y glyn. Yng ngosgordd y storm terfysgai y gwyntoedd. Ysgubent mewn rhwysg dros brysgwydd y wigfa; mwngialent yn flwng rhwng mein-gangau y bedw; hysient fel seirff ym mhreiff-osglau y masarn; dyruent yn groch rhwng colfennau y deri. Aruthr oedd stwr rhuthr y storm!

Ymostegodd y dymhestl honno. Drannoeth rhuai oerwynt y dwyrain. Pwy na rynnai gan fin ei erwinder? Er sefyll o honof yn llygad yr haul, a'i wres fel tes Mehefin, 'rwyn crynnu yrwan, 'rwy'n teimlo'r erwinrew wrth feddwl am dano. Ydych chwi'n cofio? Och fi! Taenai ei lwydrew fel mân ludw, ledled yr awyr. Bwriai ei ia yn dameidiau. Brigau y gwydd a wisgai â barrug. Ei ffun oer a fferrai wlithwlaw'r ffurfafen.

Ond heddyw, welwch chwi mor braf ydyw? Treiglwyd ymaith dros gaerau'r terfyngylch lenni huddygl-liw y cymyl, a gloewed yw'r entrych yrwan a gwawl y saphir. Ymrithia cymyl bychain ysgafnwyn, fel blaenau edyn angylion, drwy'r ysplander, ar y naill du i'r haul, pasiant yn rheng heibio ei wyneb, gwisgir hwy ganddo ag arian, a chiliant, o'r tu arall iddo, yn ol i ogoniant dwfn y nefoedd. Rhyngom a'r wybr, a'r haul ar ein cyfer, saif prennau'r wig yn eu prydferthwch gaeafol noethlwm. Delweddir hwy—in relief—yn belydr, cangau, brigau, a blagur ar lesni digymar y nefoedd. Fuoch chwi erioed yn sylwi ar gysgod pren ar wyn yr eira ar noson loergan? Nid harddach y cysgodlun—y silhouette—rhwydweog hwnnw na delw'r coed ar len yr awyr ar fore heulog fel heddyw.