Chwyth awel y de, fel anadl haf, dros drumau y Berwyn. Dan ei chyffyrddiad hudolus ymsiriola cangau llwydwawr y wig, ac anesmwytha rhithion y blagur yn niddosrwydd eu cenwisg. Ymwthia dail pidyn y gog, a'r danadl, a bresych y cwn, a blodyn y gwynt, a'r briallu, a'r mwsglys, a'r fioled, drwy'r mwswgl yng nghysgod y llwyni i ddathlu ymweliad cyntaf yr Awel feddal felfedaidd. Ymbincia yr adar beilchion, a thrwsiant eu plu er ymgyplysu. Mae dwy frongoch yn y llwyn o'm blaen yn ymgytwaith, ac yn ymgiprys yn serchog fel rhai fai'n dechreu caru. Gwelant ni a hedant yn yswil i unigedd suol y wig i,—wel, i chware mewn afiaeth yn ol hen arfer cariadon. "Twit! Twit!" Dyna'r deryn coch yn galw ar ei gydmar. Twit!" "Tw-i-i-t!" Glywch chwi'r llall yn ei ateb? Daw'r cornchwiglod siobynog yn ol o wastadlawr y Dyffryn i'r bryniau awelog i nythu. Mae dau o adar yr eira yn sefyll, y naill ar simdde, a'r llall ar glochdy yr ysgol, yng ngolwg y twll yn nhalcen y ty, lle nythent llynedd. Hed un o honynt iddo. Dacw fe allan drachefn ac yn uno â'i gydwedd sy erbyn hyn yn switan, ac yn chwiban, ac yn ymwingo'n aflonydd ar gangau yr onnen gyfagos. Glywch chwi serchgogor cleberog y ddau?--rhyw gymysgedd rhyfedd ydyw o drydar, a ffrillio, a chlwcian, a gwichio, yn cael eu dilyn gan swn fel clec-clec-clec cyfres wyllt o gusanau, neu drwst dwr yn bwr-bwr-bwrlwm yng ngwddw costrel. 'Rwan am chware! Hedant, gwibiant, llamant, piciant, o gangen i gangen, crychleisiant, pigant eu gilydd, gogleisiant y naill y llall, tra y cryna ac yr ysgryda pob plufen lefn ar eu corff gan nwyd-bleser cyforiog.