Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tyn y côr asgellog eu telynau oddiar gangau yr helyg wylofus, a dechreuant gyweirio eu tannau i blethu odlau gobaith a chariad. Telora'r uchedydd wrth ddorau'r Nefoedd. Cân brongoch yma, cân brongoch acw. Una'r ji-binc, a'r deryn coch, a'r llinos, a'r eurbinc, a'r dryw, a'r deryn du yn y gydgan. Twit-twit-twitia aderyn y to, ysgrecha'r biogen, meinleisia'r peneuryn, a gwichia yr yswigw las fach. Clywir llais uwch na'r oll-hyfrydlais clir, perorol, proffwydol y fronfraith yn llafarganu—yn bloeddio—Shir yp! Shir-yp!!" "Mae'r Gwanwyn yn dod!" Mae'r Gwanwyn yn dod!!" a chrawcia'r brain yn yr asur oddiarnynt,"Clywch-clywch!" "Clywch-clywch!!"'

Mor siriol yw blodau hirion y GOLLEN! Maent fel gwenau ar flwng ruddiau y Gaeaf. Estyn y pren ei frigau yn uchel i ddangos i'r drain a'r mieri cylchynol degwch euraidd ei gangau; a gwthia ei geinciau drwyddynt i rannu'n garuaidd â hwy o doraeth a chyfoeth ei dlysni. Talant yn ol iddo yn fuan in kindmewn tresi gwynion o flodau Mai a thorchau gwridgoch o rosynau Mehefin.

Ym mlodau y cyll ni chymysgir y rhywiau mwy nag yn eiddo yr helyg. Cartrefa y gwrywiaid ar bennau eu hunain mewn rhai blodau, a'r benywiaid ar bennau eu hunain mewn blodau ereill. Yn wahanol i'r helygen, fiynna y naill a'r llall o'r clybiau hyn ar frigau yr un pren-megis am yr heol â'u gilydd. Tyrrau o flodau gwrywaidd yw y ffluron hirgrwn—y cynffonau[1] llywethog—y cat-

  1. Gelwir y llinynau hirion yma, ar lafar gwlad, gan y Saeson yn lambs' tails. Enwau Cymraeg arnynt ydyw, cynffon y gath, cenawon coed, cenawen cyll. Pertach yw'r enw Saesneg catkins.