kins melynwawr yma sy'n hongian fel cadwynau goludog ar gangau goleulwyd y cyll. Edrychwn ar un o honynt. Mae arno ugeiniau o gen neu o ddail bychain wedi eu gosod wrth eu gilydd, a thros eu gilydd yn rhannol, ar ddull peithynau neu lechau ar bennau tai. 'Mhen diwrnod neu ddau, os deil y tes, cwyd y cen eu pennau—fel y gwelwch yn y fflur henach yma-gan ddangos bagad o friger—teulu o ryw wyth gwrryw yn eistedd yn daclus a thalog ymhob un o honynt, ac ymylon y dail bychain yn plygu oddiarnynt fel bargod neu benty i'w cysgodi a'u hamddiffyn. Ysbiwch ar y cen drwy y mwyadur bychan yma. Welwch chwi, mae eu tu mewn—lle nytha y briger—wedi ei wynebu yn ddel â gwynwlan cynnes; a'u tu allan yn flewog, a durfin, a diddos fel defnydd llawban dyfrdyn. Ar hin wleb syrth y gwlaw oddiarnynt fel defni oddiar fondo, a felly diogelir y paill, egwyddor fywydol y briger, rhag cael ei olchi ymaith cyn cyflawni ei waith. Y cen yma, yng nghyd â'u briger, sy'n cyfansoddi blodau gwrywaidd y cyll. Gwahanol ydynt i flodau yn gyffredin. Nid oes iddynt na blodamlen gaead gysgodol-gwna y cen wasanaeth honno; na choronig loewdlos, aml-liw i lygaddynnu y gwenyn, a'r clêr, a'r gwybed, canys nid oes mêl ym mlodau y cyll.
Braidd y mae neb nad yw, rywbryd neu gilydd, wedi sylwi ar wullion gwrywaidd y cyll; ond anaml, mewn cymhariaeth, yw y rhai a welodd y blodau benywaidd. Gadewch i ni edrych am danynt ar un o'r cangau ifeinc yma