Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cawn hwy heb fod nepell oddiwrth y ffluron gwrywaidd gyferbyn a hwy'n aml ar yr un gainc. Welwch chwi yr oddfyn bychan cennog yma, tebyg i ddeil-flaguryn, a thusw o fain linynnau rhuddgoch yn tarddu allan o hono gan ledu ei frig ar gylch? Wel, dyma un o'r catkins benywaidd. Gwahaniaetha oddiwrth ei gymheiriaid gwrywaidd mewn maint—mae'n llai; ac mewn lliw—mae'n goch. Gweigion yw cen allanol yr oddfyn; ond amgaua nifer o'r cen mewnol, bob un, ddau flodyn benywaidd perffaith. Brigau gludiog a garw y pelydr yw y blewiach cochion yma, ac arnynt hwy y rhaid i'r paill syrthio er ffrwythloni rhithion y cnau sy yn yr hadgelloedd wrth fôn y pelydr. Tynnwn y sypyn ymaith a rhown ef dan y chwyddwydr mawr yma. Welwch chwi, mae'r paill yn ei foglynu'n barod, yn dryfrith drosto. Gwreichiona ac efflana'r manflawd fel eurlwch a pherlau ar borffor ysblenydd y ffluron. Gymaint o ogoniant cyfrin sy o'n hamgylch yn ein hymyl—ac mor ychydig a'i gwel! Datguddir ef yn unig i'r sawl a'i cais fel arian, ac a chwilia am dano fel am drysorau cuddiedig. Sylwch, brithir[1] y pren gan y blodau benywaidd yma. Gwridant fel gwyryfon yng ngolwg y tyrrau gwrywaidd sy'n pipian ac yn ysmicio arnynt dros ymylau y cangau.

Mae swm anferth o baill yn y cenawon gwrywaidd yma. Raid i mi ond ysgwyd y cangau'n ysgafn—dyma fi'n gwneyd felly—na ddyhidla y blodau addfed eu man-flawd—welwch

  1. Nid wyf yn tybio i mi erioed weled y fath helaethrwydd o genawon cyll-o'r ddau ryw-nag eleni. Welsoch chwi?