Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn grafanc yr arth am fod rhannau neu yspagau y dail yn hirion, ac yn ymledu yn wasgarog fel crafangan diwain y mil hwnnw pan yn symud yn araf-drwm dan bwysau ei gorff mawr afrosgo. Yn wir, mynych y gelwir llysiau ar enwau cymalau neu ermigau anifeiliaid oherwydd tebygrwydd ffansiol eu dail, neu eu ffrwyth, neu eu hadgibau, neu eu rhywbeth i'r cyfryw rannau. Glywsoch chwi son am fysedd y cwn, a barf yr afr, a chlust yr arth, a chain yr ebol, a chynffon y llygoden, a chorn y carw, a dant y llew, ac eirin y ci, a llygad yr ych, a phig y gog, a thafod yr hydd, a throed y dryw, a thrwyn y llo? Dyna i chwi dwrr o enwau diofal ar dyfolion!

Unwaith eto. Sylwch ar goesau hirion y dail. Ar eu hochr ucha maent wedi eu cafnu'n ddwin ar eu hyd, o ben i ben. I beth? Dangosaf i chwi. Gwreiddyn main, hir, yn tyfu'n unionsyth i'r ddaear, fel eiddo y moron, a'r pannas, a'r tafol sy i'r llysieuyn hwn. Un o brif swyddogaethau'r gwraidd, fel y gwyddoch, yw sugno dŵr er budd y llysieuyn. 'Rwan, er dwyn y gwlaw o fewn cyrraedd y mein wraidd hwn rhaid iddo ddafnu'n gywir uwch ei ben, hynny yw, ar y gweryd yn union wrth fôn y gwlyddyn. Ai ni lesteirir hyn gan y deilwaith clos, trwchus, a llydan yma? Na wneir. Welwch chwi, mae'r dail wedi eu panelu, a'u deilgoesau wedi eu cafnu, a'r oll wedi eu trefnu a'u cyfleu yn y fath fodd fel ag i gario ac i arwain y gwlaw i ddisgyn ar y llysieuyn, nid tuag allan, ond tuag i mewn, i gyfeiriad y gwreiddyn hirfain. Pan fo hi'n bwrw, wedi hir sychder, syrth y dyferion gan dincian, a neidio, a thasgu fel llwch gemau ar y deilwaith. Llifa'r gwlaw ar