Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd y rhigolau,—dyma eu diben,—yn ffrydiau gloewon; ac i lawr y cyff yn drochion, gan ddisgyn ar y gweryd wrth ei fôn, yn y man a'r lle y gall sugnedyddion y gwreiddyn, yn fwyaf cyfleus, ei gymeryd i fyny er disychedu y llysieuyn.[1]

Hynoted yw y blodau a'r dail. Dyma nhw'n fagwy ar y brig, yn tyfu ar fflurgoes hir amlgainc, a blodyn crwn pendrwm hanner agored, neu gaead, yn coroni pob blodyn. Nid cyfuwch pob blodyn; edrychant fel pe'n sefyll, y naill ar ysgwydd y llall. Safwn ychydig oddiwrth y planhigyn. Dyna. Edrychwch 'rwan. Mor brydferth—mor striking, yw'r cyferbyniad sy rhwng gwyrdd goleu, ysgafn, gwelw y blodyn,—lliw anghyffredin ar ffluron,—-a gwyrdd dwin tywyll y dail. Mae fel gwawl ffagl yn gorffwys ar gysgod. Fel rheol, mwy ac amlycach yw'r goronig na'r flodamlen. Yn y rhan fwyaf o lysiau hi yw y rhan fwyaf showy o'r blodyn; hi sy'n pennu ei ffurf, a'i fflurddail hi harddir â lliwiau. Ei gwyn eirian hi welir yng nghloch yr eiriawl;[2] a'i choch hi wrida foch y rhosvn. Ond y mae blodyn crafanc yr arth yn eithriad i'r rheol hon. Yma y flodamlen sy

  1. Mewn rhai llysiau teif y daily dŵr tuag allan. Mae gwraidd y llysiau hynny'n lledu, nes bod eu blaenau gyferbyn â'r lle y defnynna y dŵr. Pe tynnech y pridd oddiwrthynt yn ofalus caech fod y gwreiddiau'n ymdyrru i'r lle y dafna y dŵr fwyaf.
  2. Cloch maban (snowdrop).
    Plentyn cyntaf Gwanwyn yw,
    Yn yr awel cer mae'n byw:
    Gwynder odliw'r bheiliw bach
    Gwynder odliw'r breiliw bach