Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amlycaf. Gwneir hi i fyny o bump o gibrannau goleuwyrdd ymylgoch, pob un, o'r tu mewn, yn wrthgrwn ac wedi ei genglu â phorffor. Ymlapiant, y naill am y llall, ac ymblygant dros eu gilydd, ac ymgrothant tua'r canol fel ag i roddi ffurf globaidd i'r blodyn pendrwm. Lle'r egyr y blodyn gil gwelwgoch ei lygad gwelir ffasgell o friger penfelyn, a'r paledryn yn y canol,yn llanw cyfwng yr ystafell gyfrgron.

Ond ple mae'r goronig? Ple mae'r fflurddail? Torrwn ymaith un o'r blodau a thrown y flodamlen i lawr am y goesig. Yn union wrth fôn yr amlen, rhyngddi a'r briger, ac yn ffurfio cylch am odre yr olaf, ac yn camu am dani, tardd cyfres o ddail bychain pibellog-dyma nhw, welwch chwi-a'u genau'n siderog, ac yn ymledu allan fel cyrn diamdlawd.[1] Dyma y fflurddail sy'n ffurfio coronig y blodyn hwn. Beth sy'n llanw y pibau ac yn disgleirio o'r tu mewn iddynt fel gloew—fel mewn diliau? Gwasgwn un o honynt yn ofalus rhwng ewinedd y ddau fawd, a llifa allan o hono ddyferyn gloew. Rhown ef ar flaen ein tafod. Mel ydyw!—O flodyn mor chwerw ei flas! Yn ddiau, o'r cryf yn aml y daw allan feluster.

Mae'r mêl, fel y crybwyllwyd o'r blaen, yn tybio—yn awgrymu—croesfirwythiant. Dywedir yr aeddfeda pelydr crafanc yr arth o flaen y briger gwrywaidd. Os felly, diben y mel yma, fel ym mlodau crafanc y frân a'r helygen, yw denu trychfilod, yn gler, ac yn rhilion, ac yn frogrug ac yn wenyn, i fod yn lateion—yn genhadon serch—rhwng gwyryfon un blodyn, a gwŷr ifeinc blodyn arall. Garech chwi weld y

  1. Cornucopia: corn llawndid, corn amlder.