Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

negeswyr hyn? Tynnwn flodyn agored arall, a lledwn ychydig ar ei flodamlen er gweled i mewn iddo. Cymerwch y chwyddwydryn yna. Ganfyddwch chwi nifer o bryfaid bychain, wedi eu britho â phaill—ysbiwch, dyna forgrugyn yn eu plith—yn crwydro'n ffwdanus ar wely o fanlwch hyd waelod y blodyn? Dyna'r llateion. Aroglasant y mêl a daethant yma i ymborthi arno. 'Rol ysu'r melusfwyd yna, symudant fel gwibiaid, a'r paill ynglŷn with rannau eu corff, i flodyn arall i geisio lloches a lluniaeth yno. Fel hyn trosglwyddant y paill o flodyn i flodyn; dyna'r llateiaeth ar ben, a thelir y pwyth iddynt mewn cyfluniaeth o fêl.

Beth yw'r si-gyngan yma? "B-z-z-z-z!" Beth yw'r siffrwd, beth yw'r twrw sy o'n hamgylch? Mae'r miri hwn fel murmur ha.

B-z-z-z!" Holo! wele wenynen—wele un arall —wele ragor yn dod ar ei hawd o'r cwch, gan fwngial canu, i geisio o fêl cyntaf y tymor. Disgyn un o honynt ar flodyn o'n blaen. Ceisia ymwthio—ymwinga—at y diliau, ond metha gan fod y fynedfa rhwng ymylon y flodamlen a'r briger mor gul. Gwna gynnyg eto.

"Dim posibl!" eb hi, a ffwrdd a hi ymaith. Newidia ei meddwl—daw'n ol. "Treiaf eto," medd hi. Ymwthia, ymysgwydda, ymsidrwya—well done!—dacw hi i mewn! Cyrhaeddodd ei nod drwy ddyfalbarhad. Erys dipyn yn hir i leibio y mel. Mae ar ben. Ymysgritia i ddod allan. "B-z-z-z!" Dacw hi i ffwrdd. Welwch chwi hi'n mynd?

Beth, a gyfnewidiodd yr hin fuaned a hyn? Mae'n oer, ac y mae min ar yr awel yma. Na nid y bore y mae canmol tywydd teg. Ciliodd chwaon esmwyth y De mor chwimwth ag y