Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daethant; ac yrwan chwyth awel lem-ddeifiol o ororau dulwyd yr eira. Pruddhaodd wyneb y nefoedd; ac, weithian, nis gwelir, gan gymyl hylithr, na gwen haul na gwybren lathr. Graddol ymgasgl y nifwl gan bylu goleu y dydd. Mae'r wig fel pe'n synnu at y cyfnewidiad sydyn ac yn ymbarotoi i wrthsefyll rhuthr y dymestl sy ar dorri. Crynhoa'r egin blethau eu gwisg wen-wlanog yn dynnach am danynt, ac ymlonyddant rhwng gwerchyrau cysurus eu celloedd. Ymwasga dail y briallu, a'r fioled, a bresych y cwn, a'r mwsglys yn ol i gynhesrwydd y mwswgl; ymhongia ffluron y cyll yn syfrdan a phendrist ar gangau gwelwon; a phwysa blodau crafanc yr arth eu pennau'n drwm ar balfau eu dail. Mae'r coed fel pe'n breuddwydio, a'r mwrllwch oer, fel llenni'r nos, yn drwch o'u hamgylch. Rhodd yr adar eu cerdd i gadw. Gwibhedant o lwyn i wrych, ac o wrych i lwyn i chwilio am loches, canys dysg eu greddf iddynt ddeddf y storm. Clwydant ar gangau cysgodol, a chwrcydant yno, a'u pen yn eu pluf, i ddisgwyl am dani. Mae'n dod. Dyma blufen eira—y gyntafanedig yn llithro allan o fol y cwmwl; lluchedena drwy'r tawch a disgyn ar y glaswellt wrth ein traed, ddistawed a heulwen. Rhedwn i'r ty, mae'r storm ar ein gwarthaf. Ar gurhynt fel hyn mynwes yr aelwyd yw'r man siriola." Glywch chwi? Cryfha'r gwyntoedd. Beichiant drwy'r gwyll fel ysbrydion cyfrgoll; dyrnant y drysau—clecia rheiny; ysgytiant y ffenestr—honcia honno; a tharanruant yng nghorn y simdde. Dyinha'r tywyllwch. Edrychwn allan. O oer-groth y cwmwl pygddu bwrir yr eira yn drwch i'r awyr; syrthia drwy'r caddug yn fflochenau llydain, nes pylu'n